Walkabout Sir y Fflint
Arweinydd Prosiect: Rachel Cooper
Cyswllt: rachel.cooper@groundwork.org.uk
Am y Prosiect
Rheolir Walkabout Sir y Fflint gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint a dathlodd ei ben-blwydd yn 4 oed fis Ebrill 2007. Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim ac yn sicrhau nad yw pobl byth yn cerdded ar eu pen eu hunain. Mae’r rhaglen gerdded yn cynnig amrywiaeth eang o lwybrau sy’n agored i bawb ac yn cael eu harwain gan Arweinwyr Cerdded Gwirfoddol sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol.
Mae llwyddiant cynllun Walkabout Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod gan y gwobrau niferus y mae wedi’u derbyn ers iddo gael ei sefydlu, yn cynnwys: ‘Gweithgaredd Partner Cenedlaethol Mwyaf Arbennig 2004’, ‘Gwobr Gwirfoddolwyr Rhanbarthol y Flwyddyn 2004’, ‘Canmoliaeth Uchel Gwobr Gwirfoddolwyr y Flwyddyn 2005’, ‘Gwobr Tîm y Flwyddyn 2005’, a ‘Gwobr Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Cymru 2006’.
Nod ‘Walkabout Sir y Fflint 2007-2010’ yw cynnwys unigolion o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd gwledig mewn gweithgareddau cerdded iach, sialensau cerdded rhyng-genedlaethau a sesiynau cyngor ynghylch maeth er mwyn gwella iechyd a lles a chynorthwyo pobl rhag cael eu hynysu’n gymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth gwyliwch:
Rhaglen Troedio Gwanwyn Sir y Fflint 2009 (pdf)
Gwefan Groundwork Gogledd Cymru
Tudalen Groundwork Gogledd Cymru - Crwydro yn Sir y Fflint
Ac i ddarllen am Charlie Berry, arweinydd cerdded iach Walkabout Wrecsam ac o bosib arweinydd cerdded hynaf Cymru a Lloegr, cliciwch yma.
Troedio Wrecsam a Sir y Fflint - Llythyr Newyddio Gaeaf 2009 (pdf)
NB: Diweddarwyd y wybodaeth yma ar 05/03/09
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

