Wrecsam

Arweinydd Prosiect: Natalie Edwards

Manylion Cyswllt: Natalie.Edwards@groundwork.org.uk

Am y Prosiect

Rheolir Walkabout Wrecsam gan Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint ac fe’i sefydlwyd i ddechrau yn 2001 i gynnig teithiau cerdded rhad ac am ddim dan arweiniad ledled Cyngor Bwrdeistref Wrecsam. Mae’r prosiect yn sicrhau nad yw pobl byth yn cerdded ar eu pen eu hunain ac mae wedi mynd o nerth i nerth a bellach mae’n cynnig amrywiaeth eang o deithiau cerdded gyda 10 o deithiau wythnosol a mwy na 25 o deithiau misol. Mae’r teithiau tywys wythnosol rhad ac am ddim yn addas i bob oedran a gallu ac arweinir bob taith gan 2 Arweinydd Cerdded Gwirfoddol cymwys a chyfeillgar. Taith Gerdded Wrecsam Gorff 07

Nod ‘Walkabout Wrecsam 2007-2010’ yw cynnwys unigolion o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd gwledig mewn gweithgareddau cerdded iach, sialensau cerdded rhyng-genedlaethau a sesiynau cyngor ynghylch maeth er mwyn gwella iechyd a lles a chynorthwyo pobl rhag cael eu hynysu’n gymdeithasol.

am ragor o wybodaeth ewch i:

Gwefan Groundwork Gogledd Cymru

Tudalen Groundwork Gogledd Cymru - Crwydro yn Wrecsam

Ac i ddarllen am Charlie Berry, arweinydd cerdded iach Walkabout Wrecsam ac o bosib arweinydd cerdded hynaf Cymru a Lloegr, cliciwch yma.

Walkabout Wrecsam Crwydro Gaeaf Rhaglen Medi - Rhag 2009 (Wythnosol)

Walkabout Wrecsam Crwydro Gaeaf Rhaglen Medi - Rhag 2009 (Misol)

Troedio Wrecsam a Sir y Fflint - Llythyr Newyddion Gaeaf 2009 (pdf)

Adran Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

NB: Diweddarwyd y wybodaeth yma ar 05/03/09

Beth Sy'n Newydd

Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.