Rhondda Cynon Taf
Rwy’n Caru Cerdded
Cydlynydd / Arweinydd y Prosiect Jayne Harry
Rfif ffôn. 01443 744900
Cyfeiriad E-bost: jayne.harry@nphs.wales.nhs.uk
Am y Prosiect: Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig rhaglen o deithiau tywys bob wythnos. Mae gennym fwy na deg o grwpiau cerdded sy’n cyfarfod yn wythnosol, boed law neu hindda, gyda mwy wedi’u cynllunio ar gyfer 2008. Cynhelir nifer o’r teithiau cerdded yng nghanol mynyddoedd a chymoedd hardd Rhondda Cynon Taf. Mae’r teithiau’n ysgafn ac yn amrywio mewn amser o 30 munud i awr, gyda’r pwyslais ar wella iechyd mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol.
Digwyddiadau:
23ain Ionawr 2008 – Cynhelir achlysur beicio a cherdded ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr. Nod yr achlysur yw cael y gorau o’r gaeaf gyda thaith feicio o amgylch y llyn a thaith gerdded o amgylch y parc. Arweinir y daith gan un o arweinwyr cerdded Parc Gwledig Cwm Dâr, sydd â gwybodaeth eang am natur a hanes y parc. Cynhelir yr achlysur rhwng 10am ac 1pm, gan gyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae bwyd a diod poeth ar gael ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan! Bydd amrywiaeth eang o feiciau a seddi babi ar gael.
24ain Ionawr 2008 – Dechrau newydd yn Abercwmboi. Bydd y grŵp yn cyfarfod yn Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Abercwmboi yn 108 John Street am 10am, i ddechrau am 10.15am. Bydd y daith yn para ryw 30-45 munud. Ffoniwch 01443 479962 am fwy o fanylion.
8fed Chwefror 2008 – Cynhelir cwrs hyfforddi Arweinwyr Cerdded Gwirfoddol yn Abercynon. Cynhelir y cwrs rhwng 9.45am a 4.30pm ac mae’n rhad ac am ddim. Ffoniwch 01443 744900 am fwy o fanylion. Bydd mwy o gyrsiau hyfforddi Arweinwyr Cerdded Gwirfoddol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Sadwrn 5ed – Sul 13eg Ebrill 2008 – Mae’r wythnos Mynediad Hawliau Tramwy’n cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf yn ystod yr wythnos hon. Mae rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau wedi’i threfnu, yn amrywio o gerdded i feicio a llogi beiciau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu gynnal achlysur, cysylltwch â Liz Dean am fwy o fanylion: Elizabeth.Dean@rhondda-cynon-taff.gov.uk
Medi – Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru. Manylion pellach ar gael yn y dyfodol agos.
Mae cyfarfodydd cerdded chwarterol i gael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Cynhelir y rhain yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Chwm Taf, yn ogystal ag mewn ardaloedd eraill y tu allan i Rondda Cynon Taf. Ffoniwch 01443 744900 am fanylion pellach.
Gwelwch amserlen llawn.
Newyddion:
Taith Gerdded Noddedig – Trefnodd STARs (y Cynllun Cefnogi Mynediad i Hamdden) daith gerdded noddedig ar gyfer grwpiau o oedolion gydag anawsterau dysgu ar y 13eg o Ragfyr 2007. Daeth y grwpiau o bob cwr o RCT a mynychodd mwy na thri deg o ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr y daith noddedig ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd. Wynebodd y cyfranogwyr yr elfennau, gan ei bod yn fore oer iawn, a cherddwyd am awr o amgylch y parc, gan godi arian at achos da. Llongyfarchiadau i’r rhai a fynychodd a diolch yn fawr i dîm a gofalwyr STARs.
Gwelwyd sawl datganiad i’r wasg yn y papurau newydd lleol a chafwyd sawl cyfweliad radio ar GTFM i hybu cerdded yn Rhondda Cynon Taf. Gwelir un o’r rhain yng ngwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae pump o daflenni ‘Teithiau Treftadaeth’ newydd wedi’u cynllunio a’u dosbarthu. Mae’r teithiau yn ardaloedd Ton Pentre, Treorci a Chwmparc. Os ydych yn dymuno derbyn copïau o’r taflenni, cysylltwch â’r Adran Datblygu ac Adfywio ar 01443 665000.
Mae gennym gardiau llwybr o deithiau iechyd yn Rhondda Cynon Taf ar gael. Os ydych yn dymuno derbyn y rhain, ffoniwch 01443 744900.
Bydd grwpiau cerdded newydd yn cael eu sefydlu yn 2008, dan y rhaglen Dewch i Gerdded Cymru. Ceir manylion pellach am y rhain yn fuan.
Cysylltiadau â gwefannau eraill
Rhondda Cynon Taf
Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru
Crwydrwyr Taf Elái
Crwydrwyr Cwm Cynon
Lluniau i’w hatodi * (1 llun dim mwy nag 1MB):
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

