Bro Morgannwg
Teithiau Cymunedol Valeways
Arweinydd y Prosiect: Ian Harvey
Manylion Cyswllt: info@valeways.org.uk
Am y prosiect:
Rhaglen o deithiau cerdded tywys wythnosol ar ffurf cylch yn para am ryw 1-1 ½ awr ac yn rhwydd i’w cerdded. Yn gefndir i’r cyfan, cefn gwlad hardd a phentrefi tlws Bro Morgannwg. Llunnir rhaglenni ar gyfer y gwanwyn, yr haf a’r hydref cyn i’r tymor perthnasol gyrraedd ac maent ar gael o’n swyddfa. Hefyd, mae Valeways yn trefnu ac yn arwain Teithiau Cynnwys yn y Fro ar gyfer grwpiau difreintiedig a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Eleni (2007), rydym wedi ychwanegu at ein rhaglen o deithiau cerdded gyda’n teithiau Cam Ymhellach, sy’n hirach ac ar gyfer cerddwyr mwy anturus. Maent wedi’u marcio ar y rhaglenni gyda symbol calon sengl neu ddwbl, gan ddibynnu ar hyd y daith.
DS: Diweddarwyd yr wybodaeth ddiwethaf ar 18/9/7
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

