Caerdydd
Arweinydd Prosiect: Jane Williams
Cyswllt: janewilliams@cardiff.gov.uk
Am y Prosiect
Ar hyn o bryd cynhelir pedair taith gerdded ar ddeg bob wythnos mewn cymunedau amrywiol yng Nghaerdydd. Mae’r teithiau cerdded mwyaf diweddar yn cynnwys ail daith gerdded yn ardal Bae Caerdydd / Grangetown ac un ym Mynwent Cathays.
Cynhaliwyd pedair "Taith Gerdded ar y Cyd" eleni yng Nghaerdydd, a gwahoddir yr holl grwpiau cerdded i’r achlysuron hyn.
Roedd ein Taith Aeaf fis Mawrth diwethaf o amgylch Fferm Fforest yn gryn gyflawniad o ran dyfalbarhad, oherwydd y glaw trwm. Fodd bynnag, fe lwyddon ni i ddenu 48 o gerddwyr ac roeddent wir yn gwerthfawrogi’r gwpanaid o de a’r teisennau cartref yn BTCV ar y diwedd.
Fis Mai, roedd ein Taith Wanwyn yn cynnwys cerdded o Sain Ffagan ar hyd Llwybr Elái am ychydig filltiroedd ac yna’n ôl i’r Plymouth Arms am ginio. Roedd mwy na 50 o bobl yn bresennol y tro hwnnw.
Ar gyfer ein Teithiau Haf, dyma fentro i Fro Morgannwg am daith gerdded bleserus o amgylch Llynnoedd Cosmeston.
Ar gyfer Taith yr Hydref, teithiwyd i fyny Llwybr Taf o Ffynnon Taf hyd at Nantgarw ac yna’n ôl ar hyd glan afon Taf. Gwaetha’r modd, yn ystod traean olaf y daith fe lawiodd yn eithriadol drwm ac fe wnaeth hynny roi diwedd digon diflas i’r daith! (does dim lluniau o’r diwrnod hwnnw!).
Cynhelir ein taith gerdded nesaf fis Chwefror, ar hyd cymal Caerdydd o Lwybr Taf o bosibl.
Mae 57 o arweinwyr cerdded wedi cael eu hyfforddi gan Jane Williams ar gyfer Caedydd a’r ardaloedd o amgylch mewn 6 sesiwn hyfforddi gwahanol yn ystod 2009.
Mae cynllun Caerdydd yn parhau i dyfu ac yn datblygu partneriaethau llwyddiannus gyda sefydliadau lleol eraill.
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

