Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
Arweinydd Prosiect: Kay Maybank
Manylion Cyswllt: Kay.Maybank@nphs.wales.nhs.uk
Am y Prosiect:
Dewch i Gerdded Cymru - Merthyr Tudful
Mae ystadegau’n dangos nad yw 71% o oedolion Merthyr Tudful yn cymryd rhan yn y lleiafswm o weithgarwch corfforol a argymhellir er mwyn i hynny fod o fudd i’w hiechyd. Mae lefel y gweithgarwch corfforol ledled Cymru, fel yn y byd datblygedig yn gyffredinol fwy neu lai, yn isel, gyda 71% o oedolion yn methu bodloni’r lleiafswm o 30 munud o weithgarwch cymedrol a argymhellir 5 niwrnod yr wythnos.
Mae’r manteision sy’n perthyn i Gerdded yn cael eu derbyn a’u cydnabod yn eang. Mae cyflwyno Dewch i Gerdded Cymru ym Merthyr Tudful wedi cynnig cyfle i Grwpiau Cerdded newydd a rhai a oedd yn bodoli eisoes i dyfu a datblygu, gan ddarparu rhwydwaith sy’n cyflwyno cyfleoedd i hyfforddi Arweinwyr Cerdded ar gyfer sefydliadau’r sectorau Gwirfoddol, Cymunedol a Statudol, er budd yr unigolion a’u grwpiau, mewn perthynas ag iechyd a lles.
Tra’n cefnogi ardaloedd Cymunedol yn Gyntaf yn benodol, gan sefydlu eu hanghenion mewn perthynas â Grwpiau Cerdded, rydym yn darparu rhwydwaith cefnogi gan weithio gyda sefydliadau’r sectorau Gwirfoddol, Cymunedol a Statudol ac Adrannau Proffesiynol, ac yn cydweithio fel un. Rydym yn chwarae rhan allweddol yng "Nghytundeb Partneriaeth Merthyr Tudful" gyda’r bwriad o ganfod anghenion pellach y fenter yn ein Bwrdeistref, mewn perthynas â’n Hamgylchedd Naturiol.
Mae "Merthyr Tudful" yn falch o allu cyhoeddi ei fod wedi recriwtio mwy na 68 o Arweinwyr Cerdded sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar – wedi’u hyfforddi fel rhan o’r fenter "Dewch i Gerdded Cymru". Maent yn dod o bob sector o’r Gymuned. Cynhaliwyd yr Achlysur Hyfforddi llwyddiannus hwn yn ystod misoedd Medi a Hydref 2008 a mis Chwefror 2009.
O ganlyniad, mae Fforwm Cerdded / Grŵp Llywio Merthyr wedi cael ei sefydlu a bydd yn cyfarfod bob chwarter yn awr er mwyn cynnal y fenter Dewch i Gerdded Cymru a’i datblygu ymhellach yn y dyfodol.
Hefyd, rydym yn dymuno i’r "Fforwm Cerdded" nesaf fod ar ffurf "Taith Gerdded Gymunedol" ym Merthyr, yng Nghanolfan Fynydd Aberhonddu. Mae hwn yn lleoliad hardd iawn ar gyfer "Taith Gerdded Iach" – mewn ardal heb unrhyw gyfyngiadau na chamfeydd na giatiau. Rwyf wedi cael hyd i hanesydd ar gyfer y daith gerdded, er mwyn cyflwyno rhyw faint o hanes yr ardal i ni wrth i ni fynd yn ein blaenau.
Wedyn, darperir lluniaeth yn Ystafelloedd Te’r Ganolfan Fynydd.
Isod gwelir astudiaethau achos o gerddwyr ym Merthyr sydd wedi elwa’n fawr o "Dewch i Gerdded Cymru".
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

