Teithiau Tywys ar Gyfer Pobl Ddall a Rhannol Ddall
Arweinydd y Prosiect: Sharon Beckett
Manylion Cyswllt: Sharon.beckett@Gwentblind.org
Am y Prosiect:
Cerdded diogel a rhwydd i bobl ddall a rhannol ddall yn awdurdodau unedol Blaenau Gwent, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili a Thorfaen. Croeso cynnes i gŵn tywys! Mae’r teithiau’n rhyw 4 milltir o hyd fel rheol ac yn cymryd rhyw 4 awr, yn cynnwys seibiant am ginio. Maent ar dir amrywiol – coetiroedd, caeau, llwybrau marchogaeth, traciau, ffyrdd gwledig.
Cerddir y teithiau i gyd ymlaen llaw gan dywyswyr profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth. Asesir pob risg ac mae’r safon yn addas yn gyffredinol i unrhyw un gyda lefel isel neu gymedrol o ffitrwydd. Rydym yn cerdded ar gyflymdra sy’n addas i’r arafaf yn y criw a’r amcan yw bod allan yn yr awyr agored gyda chwmni cyfeillgar.
Am wybodaeth bellach cliciwch yma.
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

