Monitro a Gwerthuso

Bydd rhaglen 'Dewch i Gerdded Cymru' (LWC) yn canolbwyntio’n benodol ar fonitro a gwerthuso am ddau reswm: Lets Walk

• I gasglu adborth gan gyfranogwyr. Bydd llwyddiant LWC yn cael ei fesur yn nhermau cyfranogiad a pherchnogaeth y bobl yn y grwpiau targed ar y rhaglen;
• I gasglu tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio orau fel bod rhaglenni yn y dyfodol yn gallu cyllido prosiectau gan ddefnyddio’r dulliau sy’n cynnwys pobl yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Pam ddylech chi fonitro a gwerthuso ?

Fe hoffem i fonitro prosiectau fod yn rhan o weithgareddau o ddydd i ddydd, fel eu bod yn rhan o’ch proses ddyddiol chi.

Mae monitro a gwerthuso’n bwysig am ddau brif reswm:

• Ar gyfer dysgu a datblygu – Bydd o gymorth i chi asesu pa mor dda ydych chi’n gwneud er mwyn eich helpu i’w wneud yn well. Mae’n cynnwys holi beth sydd wedi digwydd a pham – beth sy’n gweithio a beth sydd ddim;
• Ar gyfer atebolrwydd – i ddangos i eraill eich bod yn effeithiol.

Mae cyllidwyr a chyfranwyr eisiau gwybod a yw prosiect wedi gwario ei arian mewn ffordd briodol. Yn aml, mae prosiectau angen ‘profi’ eu llwyddiant neu ‘gyflwyno achos’ ar gyfer sicrhau cyllid pellach er mwyn i’r prosiect allu dal ati, yn arbennig ar lefel leol.

Mae’n ofynnol i bob prosiect a gyllidir drwy gyfrwng 'Dewch i Gerdded Cymru' gasglu data monitro. Mae’r Pecyn Cyfarwyddyd ar gyfer Monitro a Gwerthuso eich Prosiect yn egluro’r broses fonitro’n fanwl.

Gwerthusiad blaenorol

Fel rhan o’r rhaglen Cerdded y Ffordd at Iechyd flaenorol (dan arweiniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru), cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth werthusiad cenedlaethol yn rhoi sylw i’r meysydd a ganlyn:

• Gwybodaeth feintiol sylfaenol gan bob prosiect WW2H lleol, e.e. sawl taith dywys, sawl cyfranogwr, nifer y pecynnau cerdded annibynnol a gyhoeddwyd;
• Gwybodaeth am sut datblygwyd y prosiectau lleol;
• Gwybodaeth a gasglwyd gan sampl o gyfranogwyr ar deithiau tywys. Y nod oedd asesu sut oedd y defnyddwyr yn teimlo am y rhaglen a pha un ai oeddent wedi newid eu harferion gweithgarwch corfforol ai peidio.

Adroddiad terfynol WW2H (Mawrth 2007) (word.doc) 759KB

Adroddiad ar werthuso’r cyrsiau hyfforddi ar gyfer Cydlynwyr Lleol Prosiectau ac Arweinwyr Cerdded (Tachwedd 2006) (word.doc) 407KB

Beth Sy'n Newydd

Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.