Hyfforddiant

Hyfforddiant Arweinydd Cerdded Gwirfoddol:Lets Walk

Cwrs undydd yw hwn, a gyflwynir yn lleol. Mae ar gyfer gwirfoddolwyr sydd eisiau arwain ‘teithiau iechyd’ ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yn eu cymunedau neu mewn ardaloedd o amgylch. Mae’r cwrs yn darparu cyngor ymarferol ynghylch sut i arwain taith gerdded yn ddiogel a sut i annog a chymell cyfranogwyr.

Erbyn diwedd y diwrnod hyfforddi, bydd y cyfranogwyr yn gallu:

• Perthnasu’r prosiect lleol i’r cyd-destun ehangach o hybu cerdded yn genedlaethol;
• Darparu amlinelliad o sut mae cerdded o fudd i iechyd a lles;
• Egluro faint o weithgarwch corfforol a argymhellir er mwyn i hynny fod o fudd i iechyd;
• Adnabod y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn rhaglen gerdded;
• Egluro beth yw ‘taith gerdded er budd iechyd’;
• Amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau Arweinwyr Cerdded;
• Cynnal asesiadau risg ar gyfer y teithiau cerdded maent yn eu harwain;
• Gwneud yn siwr bod y daith yn ddiogel ac yn cydnabod peryglon posibl.

Mae gan Gymru fwy na 50 o Hyfforddwyr Rhaeadru i gyflwyno hyfforddiant yr Arweinwyr Cerdded Gwirfoddol (ACG). Mae’r cyrsiau’n tueddu i gael eu cynnal ble ceir angen lleol a gall ddibynnu ar sefydlu teithiau newydd neu lawer o ddiddordeb yn cael ei fynegi ymhlith gwirfoddolwyr. Fe’ch cynghorir i gysylltu â phrosiect cerdded yn eich ardal am wybodaeth bellach am ddyddiadau’r cyrsiau sydd i ddod cliciwch yma.

Yswiriant ar gyfer CACG

Mae’r holl wirfoddolwyr a hyfforddir drwy gyfrwng Cwrs Arweinydd Cerdded Gwirfoddol 'Dewch i Gerdded Cymru'* yn gymwys i dderbyn yswiriant am ddim. Os ydych yn rhan o raglen ehangach, dylech wirio gyda chydlynydd y cynllun a oes yswiriant. Os oes gan y cynllun yswiriant, yna byddwch yn cael eich gwarchod dan bolisi’r cynllun o ddyddiad cwblhau eich hyfforddiant. Os ydych yn arwain teithiau ar eich pen eich hun a heb berthyn i gynllun, bydd raid i chi wneud cais ar eich rhan eich hun. Os felly, cysylltwch â Shana Thomas yn DewchiGerddedCymru@chwaraeoncymru.org.uk

*‘Cerdded y Ffordd at Iechyd yng Nghymru’ gynt.

Am wybodaeth bellach ac am atebion i gwestiynau a holir yn aml ynghylch yswiriant, cliciwch yma i fynd i’r adran berthnasol yng ngwefan WHI Lloegr.

Beth Sy'n Newydd

Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.