Hyfforddiant

Cynigir 3 lefel o hyfforddiant fel rheol wrth weithio gyda neu sefydlu prosiectau cerdded.Lets Walk

1. Hyfforddiant Sefydlydd Cynllun (SC)* - Ar gyfer unigolion sy’n chwarae rhan arweiniol / gydlynol mewn datblygu prosiect cerdded.

2. Hyfforddiant Rhaeadru – Ar gyfer pobl sy’n fodlon hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn arweinwyr cerdded.

3. Hyfforddiant Arweinydd Cerdded Gwirfoddol – Ar gyfer pobl sy’n dymuno arwain teithiau cerdded ar gyfer eu cynllun lleol.

* Nid yw 'Dewch i Gerdded Cymru' yn cynnig hyfforddiant SC ar hyn o bryd. Os hoffech wybodaeth bellach am y cwrs hwn, cysylltwch â ni.

Hyfforddiant Rhaeadru:

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n fodlon hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn arweinwyr cerdded yn lleol, ar gyfer eu cynlluniau eu hunain neu ar gyfer cynlluniau eraill. Mae’n rhaid i’r hyfforddwyr rhaeadru fod wedi mynychu hyfforddiant arweinydd cerdded gwirfoddol a meddu ar brofiad o arwain teithiau cerdded.

Mae’r hyfforddiant yn gwrs deuddydd AM DDIM ac fe’i darperir gan Ffitrwydd Cymru. Darperir yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o’r hyfforddiant gan Ffitrwydd Cymru.

Diweddariad Hyfforddiant Rhaeadru

Fel rhan o'r datblygiad proffesiynol, mae'n orfodol i hyfforddwyr rhaeadru fynychu lleiafrif o dau ddiwrnod diweddaru y flwyddyn. Bwriad yr hyfforddiant yma yw darparu hyfforddwyr newydd a phrofiadol gyda'r nwyddau dysgu diweddaraf, awgrymiadau dysgu, rhannu arferion da a cynnig cyfle i rwydweithio.

Dyddiadau Hyfforddiant Diweddaru Rhaeadru nesaf yw:

..........................dyddiadau i'w cadarnhau !

Am wybodaeth bellach am y cwrs hyfforddiant rhaeadru, cysylltwch â Ffitrwydd Cymru ar 02920 575155 neu e-bost enquiries@fitnesswales.co.uk.

Beth Sy'n Newydd

Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.