Pam cerdded ?
Rydym yn gwybod bod cerdded yn un o’r dulliau gorau o ymarfer y corff – mae’n rhad ac am ddim ac ar gael yn hwylus i bawb. Mae cynnwys cerdded fel rhan o’ch bywyd bob dydd yn allwedd i fyw bywyd iach.
Gallech:
• Mynd i gerdded gyda ffrindiau a theulu neu ymuno â grŵp a chwrdd â phobl newydd;
• Mynd â’r ci am dro’n amlach;
• Parcio ymhellach i ffwrdd oddi wrth y siopau a cherdded ymhellach.
Dim ond cerdded yn gyflym am 30 munud bum niwrnod yr wythnos sydd raid i chi i ddatblygu ffordd iachach o fyw. Gellir rhannu’r 30 munud yn gyfnodau llai, gyda sesiynau 3 x 10 munud neu 2 x 15 munud – sy’n gallu bod yr un mor effeithiol.
Ara’ deg pia hi...
Os mai dim ond am ychydig funudau allwch chi gerdded i ddechrau, mae’n well na dim. Peidiwch â’i gor-wneud hi. O ddechrau’n raddol, rydych yn fwy tebygol o gynyddu’r amser a dal ati. Po fwyaf o weithiau y byddwch yn mynd ati i gerdded, po fwyaf fyddwch yn gallu ei gerdded. Os nad ydych yn heini, rhowch gynnig ar gerdded bob yn eilddydd i ddechrau.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach.
Beth yw cerdded ‘yn gyflym’?
Rydych yn anelu at gerdded yn gyflym. Drwy gerdded ar y dwysedd hwn, mae eich iechyd yn elwa. Felly sut rydych yn gwybod os ydych yn cerdded yn gyflym?
Dylech fod yn cerdded ar gyflymder sy’n gwneud i chi deimlo’n gynhesach ac yn gwneud i chi anadlu ychydig yn gyflymach, a byddwch yn teimlo’n gynnes ac iach.
Os ydych yn cerdded a …
… canu Dylech weithio’n galetach
… siarad Mae hynny’n berffaith! Daliwch ati !
… brwydro i anadlu Arafwch ! Cymerwch eich gwynt atoch.
Efallai nad yw cerdded yn gyflym yr un fath i bawb. Bydd yn dibynnu ar eich rhyw, eich oedran a’ch lefel ffitrwydd. Mae’r tabl isod yn ganllaw ar gyfer faint o amser ddylech ei gymryd i gerdded milltir.
|
Amser mae'n cymryd i gerdded 1 milltir | |
|
5 mya |
12 munud |
|
4 mya |
15 munud |
|
3 mya |
20 munud |
|
2 mya |
30 munud |
Beth Sy'n Newydd
Mae Grantiau 2009/10 i raglen Dewch i Gerdded Cymru yn awr ar gael. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

